4 Chwefror 2022
Annwyl Aelod Seneddol
Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd sy’n gyfrifol am fonitro gweithgareddau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Chynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yng Nghymru. Rydym wedi bod yn ystyried diweddariadau rheolaidd ar y Cynllun, gan gynnwys dadansoddiad o'r data chwarterol ar geisiadau gan ddinasyddion Ewropeaidd sy'n byw yng Nghymru.
Yn ein cyfarfod ar 24 Ionawr 2022, fe wnaethom ystyried yr ystadegau diweddaraf sydd ar gael, ar gyfer y cyfnod Gorffennaf-Medi 2021. Fe wnaethom nodi’n benodol sut roedd ceisiadau hwyr yn parhau i gael eu derbyn ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, sef 30 Mehefin 2021, yn ogystal â’r niferoedd â statws preswylydd cyn-sefydlog. Hyd at ddiwedd mis Medi, roedd 37.5 y cant o ddinasyddion Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru (36,200) wedi cael statws preswylydd cyn-sefydlog a bydd angen iddynt gyflwyno ail gais er mwyn aros yma y tu hwnt i’r dyddiad y daw i ben ymhen pum mlynedd. Mae Ymchwil y Senedd wedi llunio map rhyngweithiol sy'n dangos nifer y dinasyddion sy’n breswylwyr cyn-sefydlog ym mhob ardal awdurdod lleol. Mae ein hadroddiadau monitro data hefyd ar gael ar ein tudalen we. .
Gan nad yw materion mewnfudo wedi'u datganoli, mae'r rhan fwyaf o ddinasyddion sydd â phroblemau mewnfudo yn fwy tebygol o droi atoch chi am help. Byddwn yn ddiolchgar felly pe gallech ein helpu i gymryd cipolwg ar y sefyllfa leol yn eich ardal chi, drwy nodi i ba raddau y mae etholwyr wedi codi’r naill neu’r llall o’r materion hyn gyda chi. Bydd hyn yn ein helpu i graffu ar Lywodraeth Cymru o ran cadernid y trefniadau presennol, a bydd yn amhrisiadwy i’n gwaith monitro.
Yn gywir
Jenny Rathbone
AS
Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol